Beth yw Sinema Hygyrch ?
Mae sawl ffordd y gall oedfan wella ei hygyrchedd, ac yn eu plith mae cael mynediad corfforol da i’r adeilad a darparu pamffledi print bras. Mae’r oedfannau sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn hefyd yn cynnig cyfleusterau lefel uwch i bobl anabl ar lun atgyfnerthiad clywedol, disgrifiad clywedol a chyfleusterau isdeitlo ysgafn yn ystod dangosiadau penodedig.
Beth yw Isdeitlo Ysgafn ?
Defnyddir isdeitlau mewn dangosiadau penodedig (nid yn ystod pob sioe). Caiff isdeitlau eu taflunio ar sgrin y sinema, er mwyn galluogi pobl fyddar a’r rhai sy’n drwm eu clyw ac sy’n methu clywed y trac sain i fwynhau’r ffilm. Mae’r isdeitlau yn disgrifio’r trac sain yn ogystal ag atgynhyrchu’r ddeialog.
Beth yw Atgyfnerthiad Clywedol ?

Mae atgyfnerthiad clywedol yn chwyddo trac sain y ffilm er budd y bobl hynny sy’n drwm eu clyw. Bydd defnyddwyr y clustffonau yn clywed yr un sain â gweddill y gynulleidfa ac mae’r cyfleustra hwn ar gael ym mhob dangosiad.
Beth yw Disgrifiad Clywedol ?
Disgrifiad
sain o’r ffilm yw hwn, a chaiff ei chwarae drwy glustffonau, ar gyfer
pobl ddall a’r rhai sydd â nam ar eu golwg sy’n ei chael
hi’n anodd gweld y llun neu’n methu ei weld o gwbl. Mae disgrifiad
clywedol yn disgrifio’r chwarae sy’n digwydd ar y sgrin ac
mae’r cyfleuster ar gael ym mhob dangosiad pan fydd y ffilm wedi’i
rhyddhau yn y fformat hwn.
Cysylltwch â’r oedfan yn uniongyrchol, os gwelwch
yn dda, (cliciwch yma am fanylion
cyswllt yr oedfan) i gael manylion y
rhaglen neu ewch i www.yourlocalcinema.com



