Sinema Hygyrch Newyddion
A+ A-  


DANGOSIADAU SINEMA GYDA DISGRIFIADAU CLYWEDOL AC ISDEITLAU YSGAFN

AR GAEL BELLACH MEWN DEG O GANOLFANNAU CELFYDDYDOL AR DRAWS CYMRU


Ym mis Medi 2007, lansiodd deg o ganolfannau celfyddydol ddangosiadau o ffilmiau gydag isdeitlau a disgrifiad clywedol, a thrwy hynny bydd pobl fyddar a’r rhai sy’n drwm eu clyw, pobl ddall a’r rhai â nam ar eu golwg yn gallu mwynhau’r profiad sinema gyda ffrindiau a theulu.

 



Yng Nghymru, mae dros 480,000 o unigolion sydd wedi colli’u clyw neu sy’n dioddef anawsterau yn ymwneud â’r clyw a 100,000 sydd â choll golwg difrifol. Gan fod bron pob ffilm sinema boblogaidd sy’n cael ei rhyddhau ar gael erbyn hyn gydag isdeitlau ar gyfer y rhai sydd â nam ar eu clyw a disgrifiad clywedol ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddiffyg ar eu golwg, bydd y prosiect newydd hwn yn dod â manteision sylweddol i gynulleidfaoedd ar hyd ac ar led Cymru.

Cychwynnodd y prosiect ym mis Mehefin 2006 pan gytunodd deg o ganolfannau celfyddydol i fod yn rhan o’r cynllun hwn yn dilyn ymchwil a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ar ôl archwiliad llawn o’r cyfleusterau taflunio ac yn dilyn derbyn nawdd ariannol gan gynllun Loteri Cyfalaf Cyngor Celfyddydau Cymru, aeth Creative Mwldan Creadigidol (canolfan i’r cyfryngau yn Aberteifi) ati i reoli’r dasg o osod cyfarpar technegol, cefnogi oedfannau drwy ddarparu hyfforddiant priodol i’r staff ac i gydweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac Asiantaeth Ffilm Cymru er mwyn lansio a marchnata’r cyfleusterau newydd yn 2007.

Bu sefydlu safon arfer gorau cyffredin yn rhan bwysig o’r prosiect hwn er mwyn sicrhau lefel resymol o ddangosiadau hygyrch ac i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau newydd yn cael eu marchnata’n briodol. Mae’r Safon hwn yn ffrwyth ymchwil ac ymgynghori gyda sefydliadau megis Celfyddydau Anabledd Cymru, RNID, RINB a yourlocalcinema.com

Cliciwch yma i lawrlwytho Marchnata a Rhaglennu Sinema â Disgrifiadau Sain ac Isdeitlau - Canllaw Ymarfer Da

[3Mb !]

Yn ychwanegol at y prosiect, mae Creative Mwldan Creadigidol, gyda nawdd Grant Bychan i Sefydliadau gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi paratoi hysbyslun sinema fydd yn cael ei ddangos ym mhob un o’r oedfannau sy’n cymryd rhan er mwyn hybu dangosiadau gydag isdeitlau a disgrifiadau clywedol.

Mae’r oedfannau sy’n cymryd rhan wedi ymrwymo i raglen reolaidd o ddangosiadau hygyrch. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â’r oedfan yn uniongyrchol (cliciwch yma am fanylion cyswllt yr oedfannau) am fanylion y rhaglen neu ewch i www.yourlocalcinema.com .



Cyswllt y Prosiect
Sam Vicary Rheolwr Prosiect
Creative Mwldan Creadigidol
Clos y Bath House
Aberteifi Ceredigion SA43 1JD sam@mwldan.co.uk

 

 




Llun o person yn y sinema yn defnyddio clustffon adroddiad disgrifiadol

Cliciwch yma i ddweud wrth ffrind